Take a photo of a barcode or cover
Ardderchog. Wedi bod ar y silfoedd ers blwyddyn neu ddwy, ac wedi dechrau arno gwpl o weithiau, a methu mynd yn bell. Fel fforest y Vorrh ei hun, roedd tewdra y tywyllwch yn rhoi ofn arnaf. Ond unwaith i fi fynd ar goll ynddo, doedd 'na ddim troi yn ôl, a rhaid oedd gwthio ymlaen ar hyd ei lwybrau troellog.
Ddim yn anghenrheidiol, ond diddorol gweld y talent yn datblygu. Mae'r safon yn codi wrth fynd trwyddo, a'r ddwy stori ola yn rhagori ar y lleill gan dipyn. Ond y peth gorau am y gyfrol yw'r rhagair gan y dyn ei hun, un o'r darnau prin personol mae e wedi cyhoeddi erioed. (Braf hefyd, cael llyfr gan Pynchon sy ond yn cymryd cwpl o ddiwrnodau i'w ddarllen.)