nicdafis's profile picture

nicdafis 's review for:

The Vorrh by Brian Catling
5.0

Ardderchog. Wedi bod ar y silfoedd ers blwyddyn neu ddwy, ac wedi dechrau arno gwpl o weithiau, a methu mynd yn bell. Fel fforest y Vorrh ei hun, roedd tewdra y tywyllwch yn rhoi ofn arnaf. Ond unwaith i fi fynd ar goll ynddo, doedd 'na ddim troi yn ôl, a rhaid oedd gwthio ymlaen ar hyd ei lwybrau troellog.